2015 Rhif 1368 (Cy. 136)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gwybodaeth, Cyfnodau a Ffioedd ar gyfer Cofrestru a Thrwyddedu) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r wybodaeth, y cyfnodau a'r ffioedd sy’n ofynnol ar gyfer cais i gofrestru a chais am drwydded o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn ymwneud â Rheoleiddio Tai Rhent Preifat. Mae'n cynnwys gofyniad i'r rhan fwyaf o landlordiaid anheddau sy'n cael eu gosod, neu a fydd yn cael eu gosod, o dan denantiaethau domestig, gofrestru gyda’r awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol. Yn yr un modd, mae'n ofynnol i bersonau sy'n ymwneud â gosod neu reoli anheddau o'r fath gael trwydded gan yr awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol.

Mae rheoliadau 3 a 6 yn nodi'r cyfnodau a ganiateir i awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol benderfynu ar gais i gofrestru neu gais am drwydded, yn y drefn honno.

Mae rheoliadau 4 a 7 yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru neu gais am drwydded yn y drefn honno. Mae rheoliad 10 hefyd yn rhagnodi datganiad y mae'n rhaid ei gynnwys mewn unrhyw gais i gofrestru neu gais am drwydded.

Mae rheoliadau 5 ac 8 yn nodi'r newidiadau y mae'n rhaid hysbysu'r awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol amdanynt mewn cysylltiad â landlord cofrestredig neu berson trwyddedig yn y drefn honno.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod y ffioedd penodedig i’w pennu gan yr awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae'r Asesiad Effaith a baratowyd ar gyfer y Ddeddf yn berthnasol ac mae copi ar gael o'r Adran Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

 


2015 Rhif 1368 (Cy. 136)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gwybodaeth, Cyfnodau a Ffioedd ar gyfer Cofrestru a Thrwyddedu) (Cymru) 2015

Gwnaed                                7 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       12 Mehefin 2015

Yn dod i rym                      7 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 15(1), (4), 16(1)(e), 19(1)(b) a (d), 21(4), 23(1)(b), 46 a 142(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014([1]).

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gwybodaeth, Cyfnodau a Ffioedd ar gyfer Cofrestru a Thrwyddedu) (Cymru) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Gorffennaf 2015.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cais am drwydded” (“application for a licence”) yw cais am drwydded o'r math a bennir yn adran 18 o'r Ddeddf (trwyddedau y caniateir eu rhoi), neu gais i adnewyddu trwydded o'r fath o dan adran 26(2) o'r Ddeddf (adnewyddu trwydded);

ystyr “cais i gofrestru” (“application for registration”) yw cais o dan adran 15(1) o'r Ddeddf (cofrestru gan awdurdod trwyddedu);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014;

ystyr “person cysylltiedig” (“connected person”) yw person sy'n gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth gyda cheisydd am drwydded—

(a)     pan y landlord yw’r ceisydd am drwydded a bod y person yn gwneud unrhyw rai o'r pethau a restrir yn—

                           (i)    adran 6(2) o'r Ddeddf (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod eiddo); a

                         (ii)    adran 7(2) o'r Ddeddf (gofyniad i landlordiaid fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo); neu

(b)     pan fo'r ceisydd am drwydded yn gweithredu ar ran y landlord a bod y person yn gwneud unrhyw rai o'r pethau a restrir yn— 

                           (i)    isadrannau (1)(a) a (b), (2)(a) a (b) a (3)(a) i (c) o adran 10 o'r Ddeddf (ystyr gwaith gosod); a

                         (ii)    adran 12(1) o'r Ddeddf (ystyr gwaith rheoli eiddo).

Cyfnod ar gyfer cofrestru

3. At ddibenion adran 15(1) o'r Ddeddf (cofrestru gan awdurdod trwyddedu) rhaid i'r awdurdod trwyddedu gofrestru'r landlord o fewn 4 wythnos i dderbyn cais i gofrestru y mae'r awdurdod trwyddedu yn fodlon ei fod yn bodloni gofynion adran 15(1) o'r Ddeddf.  

Gwybodaeth i’w chynnwys mewn cais i gofrestru

4. Rhagnodir yr wybodaeth ganlynol o dan adran 15(1)(b) o'r Ddeddf (cofrestru gan awdurdod trwyddedu)—

(a)     enw'r landlord;

(b)     manylion unrhyw enwau eraill a ddefnyddiwyd gan y landlord;

(c)     cyfeiriad y landlord ar gyfer gohebiaeth;

(d)     os yw'r landlord yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r landlord;

(e)     rhif ffôn cyswllt ar gyfer y landlord, os oes un ar gael;

(f)      cyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer y landlord, os oes un ar gael;

(g)     dyddiad geni'r landlord, os yn gymwys;

(h)     cyfeiriad pob eiddo rhent yn ardal yr awdurdod trwyddedu y mae'r landlord yn landlord arno;

(i)      enw a dyddiad geni unrhyw landlord ar y cyd mewn perthynas ag unrhyw eiddo rhent sydd wedi ei ddatgan gan y landlord o dan is-baragraff (h) a pha un o'r landlordiaid ar y cyd sydd i’w ddynodi fel y prif landlord at ddibenion cofrestru;

(j)      enw a rhif trwydded, os yn gymwys, unrhyw berson a benodir gan y landlord i wneud gwaith gosod neu reoli eiddo ar ran y landlord a chyfeiriad pob eiddo rhent sy’n gysylltiedig â'r penodiad; a

(k)     os yw'r landlord yn gorff corfforaethol, y rhif cofrestru perthnasol.

Newidiadau y mae’n rhaid hysbysu’r awdurdod trwyddedu amdanynt

5. Y newidiadau rhagnodedig at ddibenion adran 16(1)(e) o'r Ddeddf (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth) yw—

(a)     cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth;

(b)     rhif ffôn cyswllt, os darperir un;

(c)     cyfeiriad e-bost, os darperir un; a

(d)     unrhyw wybodaeth gyswllt arall a ddarperir yn y cais.

Cyfnod ar gyfer ceisiadau am drwydded

6. At ddibenion adran 21(4) o'r Ddeddf (penderfynu ar gais am drwydded), rhaid i'r awdurdod trwyddedu benderfynu ar y cais am drwydded o fewn 8 wythnos i dderbyn cais am drwydded y mae'r awdurdod yn fodlon ei fod yn ateb gofynion adran 19(1) o'r Ddeddf.

Gwybodaeth i’w chynnwys mewn cais am drwydded

7. Rhagnodir yr wybodaeth ganlynol o dan adran 19(1)(b) o'r Ddeddf (gofynion cais am drwydded)—

(a)     enw'r ceisydd;

(b)     manylion am unrhyw enwau eraill y mae'r ceisydd wedi eu defnyddio;

(c)     cyfeiriad y ceisydd ar gyfer gohebiaeth;

(d)     os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r ceisydd;

(e)     os yw'r ceisydd yn ymgymryd â gwaith gosod a rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangreoedd yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;

(f)      rhif ffôn cyswllt ar gyfer y ceisydd, os oes un ar gael;

(g)     cyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer y ceisydd, os oes un ar gael;

(h)     dyddiad geni'r ceisydd, os yn gymwys;

(i)      pa un a yw'r ceisydd yn ymgeisio—

                           (i)    mewn cysylltiad ag eiddo rhent y mae'r ceisydd yn landlord arno; neu

                         (ii)    fel person yn gweithredu ar ran y landlord;

(j)      manylion am unrhyw drwyddedau, achrediadau gwirfoddol, neu gofrestriadau a ddelir, a wrthodwyd neu a ddirymwyd mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo rhent mewn unrhyw ran arall o'r DU gan ddeiliad arfaethedig y drwydded;

(k)     datganiad o —

                           (i)    unrhyw gollfarnau sydd gan y ceisydd yn ymwneud â throseddau sy'n ymwneud â'r materion a restrir yn adran 20(3)(a) o'r Ddeddf;

                         (ii)    unrhyw ddyfarniad yn erbyn y ceisydd gan lys neu dribiwnlys o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010([2]); a

                       (iii)    unrhyw gollfarnau sydd gan y ceisydd sy'n ymwneud â throseddau mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy'n ymwneud â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn adran 20(3)(c) o'r Ddeddf ac unrhyw ganfyddiad gan lys neu dribiwnlys bod y ceisydd wedi torri unrhyw rai o'r darpariaethau hynny;

(l)      os yw'r ceisydd yn gorff corfforaethol, y rhif cofrestru perthnasol;

(m)   os yn gymwys, enw a dyddiad geni unrhyw berson cysylltiedig; ac

(n)     y modd y mae neu y bydd y ceisydd neu unrhyw berson cysylltiedig yn bodloni'r gofynion hyfforddi a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 19(2)(b) o'r Ddeddf.

Newidiadau y mae'n rhaid hysbysu'r awdurdod trwyddedu amdanynt

8. Y newidiadau rhagnodedig at ddibenion adran 23(1)(b) o'r Ddeddf (dyletswydd deiliad y drwydded i ddiweddaru gwybodaeth) yw—

(a)     cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth;

(b)     rhif ffôn cyswllt, os darperir un;

(c)     cyfeiriad e-bost, os darperir un;

(d)     unrhyw wybodaeth gyswllt arall a ddarperir yn y cais;

(e)     unrhyw newid perthnasol a fyddai'n cyfrif fel tystiolaeth o'r materion y cyfeirir atynt yn adran 20(3) i (5) (gofyniad person addas a phriodol); ac

(f)      unrhyw newidiadau yn hunaniaeth unrhyw berson cysylltiedig.

Ffioedd ar gyfer ceisiadau i gofrestru a cheisiadau am drwydded

9.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod trwyddedu yn codi ffi o dan adran 15(1)(d), (4) (cofrestru gan awdurdod trwyddedu) neu 19(1)(d) (gofynion cais am drwydded) o'r Ddeddf.

(2) Cyn codi ffi, rhaid i'r awdurdod trwyddedu baratoi a chyhoeddi polisi ffioedd.

(3) Wrth sefydlu ffi at ddibenion adran 15(1)(d), (4) (cofrestru gan awdurdod trwyddedu) neu 19(1)(d) (gofynion cais am drwydded) o'r Ddeddf—

(a)     rhaid i'r awdurdod trwyddedu weithredu'n unol â'i bolisi ffioedd;

(b)     caiff yr awdurdod trwyddedu sefydlu gwahanol ffioedd ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achosion; ac

(c)     caiff yr awdurdod trwyddedu benderfynu nad yw’n ofynnol talu ffi mewn rhai achosion neu ddisgrifiadau o achosion penodol.

(4) Caiff yr awdurdod trwyddedu ddiwygio ei bolisi ffioedd a, phan fydd yn gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi'r polisi fel y'i diwygiwyd.  

Datganiad i’w gynnwys mewn ceisiadau i gofrestru neu geisiadau am drwydded

10. Rhaid i gais i gofrestru neu gais am drwydded gynnwys datganiad wedi ei gwblhau ar y ffurf ganlynol—

Rwyf i/rydym ni yn datgan bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais hwn yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth/ein gwybodaeth. Rwyf i/rydym ni yn deall fy mod/ein bod yn cyflawni trosedd os byddaf/byddwn yn darparu unrhyw wybodaeth i'r awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 sy'n anwir neu'n gamarweiniol ac y gwn/gwyddom ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol neu os byddaf/byddwn yn ddi-hid ynghylch pa un a yw'n anwir neu'n gamarweiniol.  

 

 

 

Lesley Griffiths

Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

7 Mehefin 2015

 



([1])           2014 dccc 7. Pan ddefnyddir “rhagnodedig” o fewn y pwerau galluogi, diffinnir ei ystyr yn adran 49(1) fel rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

([2])           2010 p. 15